Gweledigaeth ac amcanion | Vision and aims

Gweledigaeth

Ein gweledigaeth ni yw Cymru lle gall pawb fwynhau bwyd sy’n flasus ac yn faethlon, wedi’i gynhyrchu mewn ffordd sydd mewn cytgord â’r byd naturiol, fel gall cenedlaethau’r dyfodol hefyd fwyta’n dda.  Rydym ni eisiau helpu creu system fwyd sy’n darparu cyflogaeth ystyrlon, cynhyrchu bwyd iach, cydnabod traddodiadau diwylliannol ac yn masnachu yn deg â gweddill y byd.

Gobeithiwn y bydd Maniffesto Bwyd Cymru yn helpu pobl i ddeall o le y mae eu bwyd yn tarddu a’u bod yn gallu gwneud penderfyniadau da ynglŷn â’r hyn y maen nhw’n ei fwyta.  Credwn hefyd ym mhwysigrwydd cael mwy o gydweithrediad rhwng llywodraeth, busnesau, sefydliadau cymdeithas sifil a’r cyhoedd, yn seiliedig ar bryder a rennir er mwyn lles cyffredin, gan arwain ar lywodraethiant effeithiol a gweledigaethol o’r system fwyd.

Amcanion

  1. Hybu dull tuag at lunio polisïau bwyd yn seiliedig ar werthoedd a rennir, parch a gofal.
  2. Datblygu rhwydwaith o bobl sy’n cael eu hysbrydoli gan y Maniffesto sy’n ymrwymo i gymryd camau gweithredu er mwyn helpu hyn i ddigwydd.
  3. Archwilio’r cysylltiadau rhwng meysydd polisi a grwpiau buddiant, er mwyn gwneud argymhellion polisi effeithiol a ‘chlyfar’.
  4. Darparu grŵp ambarél ar gyfer sefydliadau sy’n ymgyrchu dros wahanol agweddau o newid yn y system fwyd a chryfhau eu lleisiau yn y ddadl.
  5. Datblygu synnwyr o Gymru fel cyfanwaith daearyddol a diwylliannol, gan hyrwyddo trafodaethau a chydweithrediad ynglyn â rôl bwyd rhwng pawb sy’n byw ynddi.

2016-09-14 red admiral banner

Vision

Our vision is for a Wales where everyone can enjoy food that is tasty and nutritious, produced in a way that is in balance with the natural world, so that future generations will also be able to eat well. We want to help create a food system which provides meaningful employment, produces healthy food, acknowledges cultural traditions and trades equitably with the rest of the world.

We hope the Wales Food Manifesto will help people understand where their food comes from and be able to make good decisions about what they eat. We also believe in the importance of more collaboration between government, businesses, civil society organizations and the public, based on a shared concern for the common good. leading to effective and visionary governance of the food system.

Aims

  1. To express an approach to food policy-making based on shared values, respect and care.
  2. To build a network of people inspired by the Manifesto who commit to taking actions to help bring it about.
  3. To develop linkages between policy areas and interest groups, in order to make effective and ‘smart’ policy recommendations.
  4. To provide an umbrella group for organizations campaigning for different aspects of food system change and amplify their voices in the debate.
  5. To develop a sense of Wales as a geographic and cultural whole, promoting discussions and cooperation around the role of food between everyone who lives here.