Gan Jane Powell [read article in English]
Os byddwch yn lwcus y gaeaf yma, gallwch brynu torth arbennig iawn ym Marchnad Machynlleth ar ddydd Mercher. Gyda dim ond chwech o dorthau’n cael eu pobi bob wythnos gan bopty Penegoes Rye and Roses, gwneir y bara o wenith a dyfir ychydig filltiroedd i lawr y lôn yng Nglandyfi a’i falu â maen a phŵer dŵr yn y ffordd draddodiadol yn y Felin Ganol, Llanrhystud. Mae’n amser maith er pan dyfid gwenith ar raddfa fawr i wneud bara yn y rhan yma o Gymru a dyma ganlyniad arbrawf gan griw o unigolion brwd o’r enw Tyfwyr Grawn Dyfi. Mae’r grŵp hefyd yn tyfu ceirch.
Un ohonynt yw Katie Hastings, sydd hefyd yn gweithio i Mach Maethlon ac yn tyfu llysiau ers sawl blwyddyn. “Mae gen i wir ddiddordeb mewn bwydo’r gymuned leol a dechreuais i feddwl a fyddai’n bosibl tyfu ein bara a’n huwd ein hunain yma yn Nyffryn Dyfi? A ches i wybod bod gwahanol fathau o rawn yn arfer cael eu tyfu drwy’r dyffryn ar ei hyd 50, 60, 70 o flynyddoedd yn ôl. Arferai pobl dyfu grawn ar ddarnau o dir sydd bellach, yn ôl rhai, yn anaddas i gynhyrchu bwyd, ond nid felly oedd hi o gwbl yn y gorffennol pan fyddai’r amrywogaethau Cymreig hyn yn cael eu tyfu”.

Dechreuodd Katie a’i chydweithwyr ar arbrawf hirfaith, gan ddysgu sut i aredig, hau, cynaeafu a dyrnu’r grawn. Buont yn ei gynaeafu â llaw ac yn hytrach na defnyddio combein, cawsant fenthyg peiriant dyrnu o Glwb Hen Dractorau Meirionnydd. “Wrth i ni dorri’r grawn a gwneud cocynnau yn y cae, roedd pobl yn dod i lawr o’r bryniau i weld beth roedden ni’n ei wneud ac yn awyddus i helpu,” medd Katie. “Roedd defnyddio’r hen injan ddyrnu wir yn gadael i fi ymgysylltu â ffermwyr o’r hen do oherwydd bod ganddyn nhw y peiriant yma roedd ei angen arnon ni a’u bod am ein gweld yn ei ddefnyddio eto. Fydden ni ddim wedi gallu ei wneud o heb y ffermwyr hŷn yma’n dangos y ffordd i ni.”
Un o’r rhain yw Alun Lewis o Benegoes sy’n cofio ei dad yn tyfu gwenith, haidd, ceirch a thatws ar fferm y teulu ac yn bwyta bara, caws, cig a llysiau wedi’u cynhyrchu gartref yn ystod cyfnod pan fyddai Dyffryn Dyfi’n tyfu cyfran uwch o lawer o’i fwyd ei hun nag sy’n digwydd heddiw. Yn nes ymlaen, treuliodd 27 o flynyddoedd fel contractwr yn mynd â’i beiriannau dyrnu o fferm i fferm. Yn wahanol i gombein, mae injan ddyrnu’n sefyll yn ei hunfan a rhaid i bobl fwydo ysgubau gwenith neu geirch i’w chrombil er mwyn gwahanu’r grawn o’r gwellt a’r us.

“Ar ôl y rhyfel, oedd pob ffarm yn gorfod tyfu ŷd a tatws, er mwyn ffidio pobl,” medd Alun gan gyfeirio at y Pwyllgorau Gwaith Amaethyddiaeth Rhyfel lleol (neu’r War Ag) a sefydlwyd ym 1939 gyda phwerau i hawlio tir gan ffermwyr nad oeddent yn cydymffurfio. “Mae’r llyfrau ’ma yn dangos bo ni yn dyrnu bron yn bob ffarm yn Benegoes ’ma, amser ’ny, ac ym mhob ardal arall, Talybont, ffor’ na i gyd, pob ffarm un ar ôl y llall.” Gan nad oedd gan Alun a’i dad ond tri pheiriant dyrnu a’u bod yn gweithio dros ardal cyn belled i’r de â Llan-non, roedd yna dipyn o bwysau i gwblhau’r gwaith. Yn ffodus, gallent fenthyca peiriant ychwanegol gan y War Ag ac roedd yna help gan garcharorion rhyfel a genod Byddin y Tir.
Mae Alun wedi bod yn rhannu ei atgofion gyda phrosiect o’r enw ‘Ffermio cymysg – hanesion a’r dyfodol’ sy’n ymchwilio i arferion ffermio dros y ddwy ganrif ddiwethaf. Ynghyd â hanesion llafar gan drigolion hŷn dan ofal y partner arweiniol ecodyfi, mae’r prosiect yn edrych ar fapiau degwm o’r 1840au, lluniau o’r 1940au a dynnwyd o’r awyr gan yr RAF, ffilm o archifau’r BBC a dogfennau eraill. Mae System Gwybodaeth Ddaearyddol yn cael ei defnyddio i ddwyn yr holl ddata yma at ei gilydd gan fwrw golwg fesul cae ar sut y byddai’r tir yn cael ei ddefnyddio.
Ymysg y data hanesyddol ceir cyfres o fapiau o’r 1930au a luniwyd ar deithiau maes gan blant ysgol a’u hathrawon. Ei gyhoeddi fel yr ymchwiliad cyntaf i ddefnydd tir yn y DU ers Llyfr Domesday, mae’n adnabod saith categori, gan gynnwys coetir, dŵr ac ardaloedd adeiledig ac yn dangos faint mwy o ffermio âr oedd yn digwydd yn ardal Machynlleth yr adeg honno. Trefnwyd yr arolwg gan y daearyddwr o Lundain Syr Dudley Stamp, a’i gwelodd yn rhannol fel ymarferiad mewn dinasyddiaeth i bobl ifainc, ond aeth y mapiau yn eu blaenau i wneud cyfraniad go iawn i ddiogelwch bwyd yn ystod y Rhyfel.

Yn adleisio hyn, un o nodau’r prosiect Ffermio Cymysg sydd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac Environment Systems Cyf. ymhlith ei bartneriaid, yw cyfrannu i drafodaeth gyhoeddus am ddyfodol ffermio yn yr ardal.
“Amserau cythryblus i ffermwyr yw’r rhain ac mae’n helpu i edrych ymhell i’r dyfodol. Mae ffermio wedi newid yn aruthrol dros y ganrif ddiwethaf mewn ymateb i newidiadau economaidd a chymdeithasol ac mae’n gallu newid eto. Rydyn ni am sicrhau bod gwybodaeth ac adnoddau ar gael i ffermwyr a darparu data’n sail i’r drafodaeth gyhoeddus,” medd Chris Higgins, rheolwr y prosiect.

Nid mapiau ac atgofion yn unig sy’n ein cysylltu â’r gorffennol. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Dr Fiona Corke yn esbonio sut maent yn meithrin gwenith traddodiadol o’r enw Hen Gymro. “Fe’i casglwyd o ffermydd yng Nghymru ym 1919 gan Syr George Stapledon, cyfarwyddwr cyntaf Bridfa Blanhigion Cymru, ac mae’n cael ei adnabod fel landrace nid amrywogaeth oherwydd mai cymysgedd o fathau oedd o, wedi ymaddasu i’r lleoliad lle’r oedd yn cael ei dyfu,” meddai. “Mae gwellt hir i’r hen fathau o wenith a ddefnyddid at doi ac mae pwysau’r cnydau’n is na phwysau gwenithau modern. Fodd bynnag, roeddent yn ddibynadwy ac mae diddordeb ynddynt eto erbyn hyn, yn arbennig gan dyfwyr organig oherwydd nad oes angen fawr o wrtaith arnynt”.
Wrth gefn adfywio grawn traddodiadol mae Fforwm Grawn Cymru, sef rhwydwaith o felinwyr, pobwyr, towyr, bragwyr a distyllwyr sy’n ymrwymedig i adfer economi rawn genedlaethol. Yn allweddol i hyn mae creu diwylliant bwyd sy’n croesawu amrywiaeth ranbarthol, wrth i rawn esblygu i weddu i wahanol amodau. Chwedl Katie, “Rydyn ni am i bobl brofi’r blas sy’n deillio o gymysgedd o wenith sy’n wahanol iawn i’r blawd rydych chi’n ei brynu oddi ar y silff. Mae blas Dyffryn Dyfi ar y dorth yma, gan adlewyrchu’r pridd a’r hinsawdd lle cafodd ei thyfu.”
Ariennir y prosiect Ffermio Cymysg yn rhannol gan Sefydliad y Teulu Ashley ac yn rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Weinidogion Llywodraeth Cymru. Cafwyd cyllid gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a’r tri Grŵp Gweithredu Lleol sydd ar waith yn ardal Biosffer Dyfi: Arwain, Cynnal y Cardi ac Arloesi Gwynedd.
Mae’r prosiect yn rhedeg tan hydref 2020 gan groesawu cyfraniad gan bobl sydd â diddordeb yn hanes amaethyddiaeth yn yr ardal a dewisiadau arallgyfeirio o ran cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Cysylltwch ag ecodyfi i gael gwybod mwy.
Mae Jane Powell yn ymghorydd addysg sy’n ysgrifennu am fwyd yn www.foodsociety.wales