Gan Eifiona Thomas Lane
[Eifiona reflects on the Oxford Real Farming Conference and its new Welsh offshoot; use Google Translate to find out more]
Ar ddechrau’r flwyddyn newydd eleni cefais fy mhrofiad cyntaf o’r ORFC, sef Oxford Real Farming Conference, sydd yn amlwg yn cael ei threfnu yn Rhydychen. Cyfle oedd hyn imi drafod syniadau am sut allai dyfodol tu allan i Undeb Ewropeaidd effeithio ar gymunedau ffermio – yn benodol oblygiadau iaith a pheryglu diwylliant gwledig Cymreig.
Ond cyn fy seswin cefais gyfle i fwynhau bore braf yn crwydro o amgylch y gynhadledd. Yr argraff gyntaf wnaeth arnaf oedd bod amrwyiaeth o stondinau safonol lle roedd pwyslais nid – fel oeddwn yn ei dybio (o ystyried ansawdd y stondinau) – ar ffermio dwys comersial ar gyfer y system fwyd a masnach byd eang, ond yn hytrach ar ffermio llai arddwys lle roedd torreth o wybodaeth defnyddiol ac ymarferol ar ddulliau a busnesau.
Roedd yno hefyd nifer o grwpiau cynghori ffermio oedd yn hybu parchu’r pridd, cyfoeth ecosystemau naturiol a thirluniau amrwyiol. Dyma’r union systemau rwyf wedi arfer gorfod eu amddiffyn a ceisio egluro eu potensial i gyflwyno gwasanaethau ecosystemau rheoli a diwylliannol. Neu, mewn iaith arall, cynnal treftadaeth, cymunedau ffermio a chefn gwlad mwy cynaliadwy.
Yn ystod fy nghyflwyniad, a oedd yn rhan o sesiwn Maniffesto Bwyd Cymru, trafodwyd ystadegau o’r ystadegau Sensws (2011) ac astudiaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru 2018, sy’d dangos bod 40% o ffermwyr yn siarad Cymraeg, sef ddwywaith yn fwy nac unrhyw gategori gwaith arall ar draws Cymru. Mae 100% o ffermwyr cymunedau Dolbenmaen, Y Bala / Llanuwchlyn a Melindwr yng Ngheredigion yn siarad yr iaith. Cyflwynwyd ymateb Llywodraeth Cymru a’r Undebau Amaethwyr Cymru i’r her byddai dirywiad yn amaeth yn ei gynnig:
- ‘Moves which undermine the viability of Welsh Agriculture are likely to represent significant threats to the Welsh language particularly in communities where the proportion of the population who speak Welsh is low or intermediate.’ (UAC 2018, Ffermio yng Nghymru a’r Iaith Gymraeg)
- ‘The composition of our farming sector is very different to the rest of the UK, particularly to England. Our landscape is more varied, our rural communities are a much greater share of the population and our agriculture is more integrated into the fabric of our culture, especially the Welsh language. We have a once in a generation chance to redesign our policies in a manner consistent with Wales’ unique integrated approach, delivering for our economy, society and natural environment.’ (Dyfodol Amaeth a Rheolaeth Tir, Lesley Griffiths, Mawrth 2017)
Y prif her byddai gwanio’r economi wledig draddodiadol ac arwain at sefyllfa ansicr iawn o ran argaeledd bwyd ffres, iach a fforddadwy mewn cymunedau sydd yn ddaearyddol fwy ymylol.
Felly – a’m sesiwn drafod wedi bod – roeddwn yn falch iawn o allu cefnogi syniad eithaf trawiadol, sef y dylai cynhadledd debyg ddigwydd yn Nghymru sef cyfle i ganolbwyntio ar ffermio a bwyd Cymreig. Byddai hon yn wahanol i gynhadleddau academaidd ar amaeth ac hefyd yn wahanol i’r Sioe Fawr yn Llanwelwedd, oherwydd byddai yn dod a chydrannau y drafodaeth wledig ynghyd. Cynhadledd integredig, ymarferol ydy’r gwledigaeth (gyda chytundeb trefnwyr yr ORFC gwreiddiol) a fydd yn lledaenu ymarfer da. Yn ystod y sesiynnau trafod traddodiadau hynafol Cymreig ar gyfer rheoli amgylchedd ac amaethu organig ac anarddwys, cynhyrchu bwyd da iach, ac yn caniatau trafodaeth ar bolisiau a gwleidyddiaeth.
Yn yr ychydig misoedd dilynol cafwyd trafodaeth brwd ar ei lleoliad ac a dylai fod yn symudol fel yr Eisteddfod, a wedyn mwy byth o drafodaeth am yr enw yn Gymraeg. Er mwyn crynhoi felly, eleni ym mis Tachwedd 2019 bydd Cynhadledd (gyntaf) Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn digwydd yn Aberystwyth. Mae’r lleoliad yma yn draddodiadol, hygyrch a rhesymol am eleni; cawn weld am flynyddoedd i ddilyn.
Mae nifer fawr o fudiadau cefn gwlad ac unigolion egniol a phrofiadol nawr yn cydweithio i sefydlu a cynllunio’r digwyddiad, ac yn sicr bydd eraill yn ymuno, ond araf deg mae dal iar! Gobeithiaf yn fawr iawn y bydd yn egino a thyfu yn driw i egwyddorion cynhadledd ORFC, sef parodrwydd i herio rhai agweddau o amaethu diwydiannol, ac y bydd yn cyfarfod lle mae cyfle ar gyfer trafodaethau rhyngddisgyblaethol, gwahanol ac amgen.
Mwy na hynny, rwyf yn gobeithio bydd y gynhadledd hon yn adlewyrchu amrywiaeth gwir gyfoeth bwyd a ffermio Cymru, ac efalla hyd yn oed mwy pwysig i mi yw bod y CGFFfC yn cychwyn a parhau i fod (pan bydd yn llwyddo a thyfu ) yn gynhadledd wledig wir Gymreig.
Mae Eifiona Thomas Lane yn ddarlithydd mewn Daearyddiaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor.
Llun: Eifiona Thomas Lane